Cerddwr wedi marw ar fynydd Tryfan yn Nyffryn Ogwen

Tim Achub Image copyright Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen

Mae cerddwr wedi marw ar ôl disgyn ar fynydd Tryfan yng Ngwynedd brynhawn dydd Iau.

Fe gafodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu galw wedi i ddynes a'i meibion ddod o hyd i gorff y dyn.

Y gred yw bod y dyn yn ei 20au neu ei 30au ac yn dod o ogledd-orllewin Lloegr.

Mae'n ymddangos iddo ddisgyn wrth geisio dod i lawr ceunant gogleddol y mynydd.