Dewis hoff gapel neu eglwys i godi ymwybyddiaeth

Sant Baglan, Llanfaglan Image copyright Alex Ramsey
Image caption Mae'r eglwys hon yn edrych dros fae Caernarfon ac yma cafodd y diweddar Iarll Snowdon ei gladdu

Mae elusen yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o dreftadaeth crefyddol Cymru trwy roi cyfle i'r cyhoedd ddewis ei hoff eglwys neu gapel.

Yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol sydd wedi dechrau'r gystadleuaeth fydd yn para tan ddiwedd Awst.

Cadeirlan Tŷ Ddewi, Eglwys Santes Gwenffrewi, Treffynnon a Chapel Als, yr addoldy Anghydffurfiol cyntaf yn Llanelli yw rhai o'r 50 o gapeli ac eglwysi sydd wedi cyrraedd y rhestr fer.

Heblaw am ddathlu'r adeiladau, gobaith ymgyrch Cymru Sanctaidd yw cynnal sgwrs ynglŷn â sut i'w cadw.

Daw hyn wrth i adroddiad gan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol ddangos bod prinder gwirfoddolwyr i ofalu am yr adeiladau.

Image copyright Yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol
Image caption Capel Jerusalem, Bethesda gafodd ei adeiladu yn 1842

Roedd yr adroddiad, oedd wedi ei selio ar arolwg o 219 o addoldai, hefyd yn dangos nad oes gan bron i hanner o'r eglwysi a chapeli gynllun cynnal a chadw a gyfer yr adeilad, a bod diffyg sgiliau codi arian i dalu am waith atgyweirio ar yr adeiladau.

Dywedodd Claire Walker, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol: "Mae oddeutu 4,500 o eglwysi a chapeli yng Nghymru. Mae oddeutu 45% o'r rhain yn rhestredig oherwydd eu harwyddocâd hanesyddol a phensaernïol.

"Fodd bynnag, gyda chynulleidfaoedd yn gostwng, nid oes modd gwarantu bod dyfodol iddynt.

"Dyna paham mae angen cael trafodaeth genedlaethol ynghylch eu dyfodol."

Sut i'w hariannu yn y dyfodol ac oes modd defnyddio mwy o'r adeiladau i bwrpasau gwahanol yw rhai o'r cwestiynau mae'n dweud sydd angen eu trafod.

Image copyright Philip-Pankhurst
Image caption Capel Maesyronnen, Clas-ar-Wy ym Mhowys yw un o'r rhai ar y rhestr

Mae'r darlledwr a'r newyddiadurwr Huw Edwards yn cefnogi'r ymgyrch gan ddweud y dylai'r cyhoedd helpu i gynnal yr adeiladau.

Dywedodd: "Os ydych yn chwilio am leoliad i gynnal cyngerdd neu ddigwyddiad cymunedol, beth am ddefnyddio eich eglwys neu'ch capel lleol?

"Os ydych yn feistr ar wneud gwaith DIY, gallech wirfoddoli i'w cadw mewn cyflwr da.

"Neu os ydych yn mwynhau diwrnodau allan, beth am alw heibio i eglwys neu gapel y tro nesaf i ddarganfod ei hanes diddorol?

"Mae treftadaeth grefyddol Cymru yn eiddo i bob un ohonom. Felly beth am fynd ati i'w dathlu."

Bydd enw y capel neu'r eglwys fuddugol yn cael ei gyhoeddi Medi 28 a bydd yr enillydd yn derbyn £500 a gwobr Cymru Sanctaidd.