'Dim digon' o gefnogaeth iechyd meddwl i famau newydd

Plentyn a mam Image copyright Getty Images

Does dim digon o gefnogaeth iechyd meddwl i famau newydd yng Nghymru, yn ôl ymgyrchwyr.

Cafodd yr unig uned seiciatryddol mam a phlentyn yn y wlad ei chau yn 2013, ac mae'n rhaid i famau nawr deithio i Loegr.

Fe ddywedodd un fam ei bod wedi cuddio ei symptomau achos pryder y byddai rhywun yn mynd â'i phlentyn oddi arni.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi £1.5m y flwyddyn ar wasanaethau iechyd meddwl amenedigol.

Teithio i Loegr

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC) - y corff sy'n comisiynu gwasanaethau arbenigol o fewn y Gwasanaeth Iechyd - ar hyn o bryd yn ystyried ailagor uned mam a phlentyn.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae rhwng 3,328 a 6,656 mam newydd y flwyddyn yn cael problemau iechyd meddwl ôl-enedigaeth, gan gynnwys iselder.

Ers i'r uned mam a phlentyn olaf gau yng Nghaerdydd, mae merched o Gymru wedi gorfod teithio i Loegr am driniaeth breswyl, gyda rhai yn mynd cyn belled â Derby neu Nottingham.

Mae eraill wedi derbyn triniaeth mewn unedau seiciatryddol i oedolion sydd - yn groes i'r unedau arbenigol i famau - yn atal cyswllt gyda'r plentyn.


'Dwi'n mynd i unman heb fy mhlentyn'

Yn sgil genedigaeth ei phlentyn cyntaf bum mlynedd yn ôl, roedd Charlotte Harding o Gaerdydd yn diodde' o baranoia ac yn gweld rhithiau.

 hithau eisoes yn diodde' o gyflwr dau begwn, dywedodd bod arni ofn sôn am ei symptomau wrth staff iechyd achos ei bod yn pryderu y byddan nhw'n mynd â'i phlentyn oddi arni.

Gwaethygodd symptomau Ms Harding pan ddychwelodd adref, ac fe gafodd ddiagnosis o seicosis ôl-enedigaeth - cyflwr difrifol sy'n effeithio tua un fam newydd o bob 1,000.

Gan fod yr uned seiciatryddol mam a phlentyn yng Nghaerdydd wedi cau, byddai hi wedi gorfod mynd i uned seiciatryddol i oedolion heb gael cyswllt â'i phlentyn.

Image caption Roedd Charlotte Harding, 30, yn ofni y byddai'r awdurdodau'n mynd â'i phlentyn oddi arni oherwydd ei phroblemau iechyd meddwl

"Dyna pryd wnes i dorri lawr yn llwyr a dweud na fyddwn i'n mynd i unman heb fy mhlentyn", meddai Ms Harding.

Oherwydd hynny cafodd driniaeth adref - proses blwyddyn a hanner o hyd, o'i gymharu â'r 12 wythnos mae mamau yn aros, ar gyfartaledd, mewn unedau mam a phlentyn.

Mae hi'n dweud bod ailagor yr uned yng Nghaerdydd, ynghyd â gwell hyfforddiant i feddygon teulu, yn hollbwysig.

"Mae merched angen yr uned hon, a ddylen ni a'n plant ddim cael ein gwahanu, mae'n anghywir", meddai.


Fe glywodd ymchwiliad yn y Cynulliad bod gwelliannau diweddar i wasanaethau iechyd meddwl i famau newydd ond bod gwahaniaethau "annerbyniol" rhwng gwahanol ranbarthau a bod angen uned breswyl ar fyrder.

Dywedodd cyrff iechyd ac ymgyrchwyr bod diffyg uned arbenigol yn cynyddu'r stigma ac yn arwain at famau'n ceisio cuddio symptomau achos pryder am golli eu plentyn.

Ymysg y pryderon eraill gafodd eu codi oedd bod chwilio am welyau yn Lloegr yn wastraff amser ac adnoddau, bod dim therapi seicolegol ar gael yng Nghymru wedi'r driniaeth yn Lloegr a bod meddygon ddim yn teimlo bod ganddyn nhw ddigon o wybodaeth i drin cyflyrau iechyd meddwl ôl-famolaeth.

'Dim syniad' am gymhlethdodau

Yn ôl Sara Moseley o elusen Mind Cymru, does dim rheidrwydd i feddygon teulu gael hyfforddiant iechyd meddwl er bod un o bob tri apwyntiad yn ymwneud ag iechyd meddwl.

Dywedodd bod diffyg cyngor a chydlynu gofal cyn ac ar ôl genedigaeth yn golygu bod gan nifer o ferched "ddim syniad" am y cymhlethdodau allai ddigwydd.

Dywedodd Cymdeithas Ffisioleg Prydain bod triniaeth breswyl ar gyfer mamau yng Nghymru yn "annigonol" a ddim yn cydymffurfio â chanllawiau cenedlaethol.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r llywodraeth yn dweud bod dros 2,000 o ferched wedi cael triniaeth gan wasanaethau cymunedol newydd

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae gan bob bwrdd iechyd nawr dîm iechyd meddwl amenedigol cymunedol.

"Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn dweud bod mwy na 2,300 o ferched wedi cael eu cyfeirio at y gwasanaethau cymunedol newydd ers Ionawr diwethaf, ac rydym yn disgwyl bydd y ffigyrau hynny'n cynyddu'n sylweddol nawr bod gwasanaethau wedi'u sefydlu ar draws Cymru gyfan", meddai llefarydd.

"Mae'n hanfodol ein bod ni'n cefnogi lles iechyd meddwl cyn, yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd a bod gwasanaethau ar gael ar gyfer merched sydd â phroblemau iechyd meddwl yn ystod y cyfnod pwysig hwn yn eu bywyd."