Bwlch cyfoeth Caerdydd yn 'annerbyniol', medd arweinydd

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Huw Thomas: Angen "mynd i'r afael" ag anghyfartaledd Caerdydd

Dydy'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd yng Nghaerdydd "ddim yn dderbyniol" yn ôl arweinydd newydd y cyngor.

Yn ôl Huw Thomas, fydd Caerdydd ddim yn gallu bod yn un o'r dinasoedd mwyaf blaengar yn y byd heb leihau'r nifer o bobl sy'n crafu byw.

Mae'r cyngor eisoes wedi cyhoeddi y byddan nhw'n gorfod arbed £74m dros y tair blynedd nesaf.

Ond mae Mr Thomas - gafodd ei ethol yn arweinydd wedi etholiadau lleol mis Mai - yn dweud bod angen "rhoi'r cyfle i bobl helpu eu hunain allan o dlodi."

'Brwydro yn erbyn caledi'

Yn ardal Sblot, un o rannau mwyaf difreintiedig Caerdydd, mae Mr Thomas yn gynghorydd.

Mae llawer o bobl yn y rhan hon o'r ddinas yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd, yn ôl un o'r ardal.

"Does gan lawer o bobl ddim popeth maen nhw ei angen ac maen nhw'n brwydro yn erbyn caledi pob dydd," meddai Charmaine Miller.

Image caption Mae Charmaine Miller yn hyfforddi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn Hyb Sblot

Mae Ms Miller yn un o ddefnyddwyr canolfan Hyb Sblot.

Mae'r ganolfan yn un o 11 o'i math yn y ddinas sy'n cynnig gwasanaethau fel cyngor ar dai, budd-daliadau a chinio ysgol am ddim yn ogystal ag addysg gydol oes.

Daw Ms Miller i'r Hyb i astudio iechyd a gofal cymdeithasol gyda Choleg Caerdydd a'r Fro, a'i gobaith hi ydy cael swydd yn y maes.

Cyfle am gymhwysterau

Yn ôl Gethin Bibbs o'r coleg, mae'r addysg sy'n cael ei chynnig yn y gymuned yn rhoi cyfleoedd i bobl helpu'u hunain.

"'Na'i gyd fi'n wneud yw rhoi siawns i bobl gael qualification fel eu bod yn gallu gweithio yn health and social care," meddai.

"Unwaith maen nhw wedi cael y qualification, fyddan nhw fyth mas o waith."

Image caption Mae Gethin Bibbs yn credu bod rhoi'r cyfle i bobl gael cymhwyster yn galluogi pobl i gael gwaith am addysg

Mae'r pwyslais ar addysg yn canu cloch gydag arweinydd y cyngor, sy'n dweud bod y lefel bresennol o dlodi "ddim yn dderbyniol".

"Y ddau ateb pennaf i dlodi ydy addysg dda a gwaith", meddai Huw Thomas.

"Mae angen, dwi'n credu, rhoi'r cyfle i bobl helpu eu hunain allan o dlodi. Nid ond ymyrryd fel llywodraeth, ond rhoi iddyn nhw'r grym drwy addysg, drwy swyddi i helpu eu hunain allan o dlodi."

'Dileu' gwasanaethau

Fe fydd yn rhaid i Gyngor Caerdydd wneud arbedion o £25m ym mlwyddyn ariannol 2017-18 a £74m i gyd dros y tair blynedd nesaf.

Mae aelod cabinet y cyngor sydd â'r portffolio cyllid, Chris Weaver, eisoes wedi dweud y bydd yn rhaid i rai gwasanaethau "gael eu dileu neu ... eu hachub dim ond drwy weithio mewn partneriaeth".

Image caption Mae Sblot yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig y brifddinas

Dywedodd Mr Thomas hefyd y byddai'n rhaid i'r cyngor fynd ati i weithio â phartneriaid gan nad oes gan yr awdurdod lleol "yr adnoddau na' 'chwaith yr atebion, o reidrwydd" i ddelio â thlodi.

Ond dywedodd y byddai, er hynny, yn rhoi'r pwyslais ar hwnnw wrth iddo fwrw ati i redeg y brifddinas.

"'Dyn ni eisiau gweld Caerdydd yn dod yn un o'r dinasoedd mwyaf blaengar yn y byd, ond allwn ni ddim gwneud hynna os ydy 60,000 o bobl yn byw mewn tlodi - dydy hynny ddim yn dderbyniol", meddai.

"'Dyn ni eisiau gweld dinas sydd yn gweithio er budd ei dinasyddion, ond sydd hefyd yn gweithio er budd y rhanbarth ac er budd Cymru."