Cymru'n nodi 100 mlynedd ers Brwydr Passchendaele

Côr Rygbi Gogledd Cymru
Image caption Côr Rygbi Gogledd Cymru yn y gwasanaeth yn Artillery Wood ddydd Llun

Bydd gwleidyddion Cymru yn nodi 100 mlynedd ers dechrau Brwydr Passchendaele mewn gwasanaeth yng Ngwlad Belg ddydd Llun.

Cafodd 3,000 o Gymry - gan gynnwys y bardd, Hedd Wyn - eu lladd neu eu hanafu yn y frwydr yn 1917, oedd yn rhan o'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae prif weinidog Cymru yno i agor y gwasanaeth coffa i'r milwyr Cymreig yn Langemark ochr yn ochr â gwleidyddion lleol.

Mae arweinwyr gwrthbleidiau'r Cynulliad hefyd wedi ymuno â'r Llywydd, Elin Jones, i osod torch i nodi'r canmlwyddiant.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dywedodd Carwyn Jones ei bod hi'n "hollbwysig peidio anghofio'r rhai fu farw"

Ynghyd â'r gwasanaeth coffa Cymreig, bydd Llywodraeth y DU yn nodi'r achlysur gyda gwasanaeth ym mynwent filwrol Tyne Cot.

Mae disgwyl i filoedd o ddisgynyddion y rhai wnaeth frwydro yn Passchendaele fod yno.

Yn eu plith bydd Luned James o Flaenafon, fydd yno i gofio ei thad-cu, Frank Gough.

Image caption Bedd Hedd Wyn ym mynwent Artillery Wood

Fe oroesodd Frank Gough y frwydr yn Passchendaele - sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Trydydd Brwydr Ypres - a dychwelyd i'w gartref yn Aberafan, Port Talbot.

Dywedodd Ms James ei bod "yn llawn cynnwrf am ddilyn ôl troed fy nhad-cu".

Fe fydd 'na ddigwyddiadau hefyd i nodi'r canmlwyddiant yn Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd, Gwynedd - cartref y bardd, Hedd Wyn.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Tanio canon i nodi Brwydr Passchendaele

Bu farw'r llenor ar faes y gad yn Passchendaele ar 31 Gorffennaf 1917, cyn cipio Cadair yr Eisteddfod ym mhrifwyl Penbedw ddyddiau'n ddiweddarach.

Yn dilyn y gwasanaeth yn Langemark, bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, hefyd yn gosod torch ar fedd Hedd Wyn ym Mynwent Artillery Wood yn Fflandrys.

Image caption Bydd beirdd gan gynnwys Ifor ap Glyn a Myrddin ap Dafydd yn adrodd eu cerddi fel rhan o'r cofio yn Yr Ysgwrn

Dywedodd Mr Jones ei bod yn "fraint aruthrol" i gael dod yn ôl i Wlad Belg i nodi'r achlysur.

"Yn y llecyn heddychlon hwn heddiw, mae'n anodd dychmygu'r erchyllterau a wynebodd ein milwyr yn ystod y frwydr, a gwewyr y teuluoedd yn ôl gartref wrth iddyn nhw ddisgwyl am newyddion am eu hanwyliaid, gyda misoedd yn mynd heibio weithiau cyn iddyn nhw gael gwybod eu tynged," meddai.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Rhys Meirion: 'Dydyn ni ddim wedi dysgu gwersi'r Rhyfel Byd Cyntaf'

"Mae rhai o'r rheiny a gollwyd yn cael eu cofio am eu cyfraniad i ddiwylliant Cymru - mewn meysydd megis barddoniaeth a chwaraeon - ond mae'n bwysig ein bod yn cofio'r holl ddynion hynny o Gymru fu farw ar faes y gad.

"Heddiw, rydyn ni'n talu teyrnged i bob un ohonyn nhw am eu dewrder a'u gwrhydri."

Image caption Cafodd gwasanaeth 'awr sero' ei gynnal wrth iddi wawrio yn Langemark

Dywedodd Elin Jones, Llywydd y Cynulliad: "Collodd cymaint o filwyr o Gymru eu bywydau ym Mrwydr Passchendaele, a down at ein gilydd er cof am y milwyr hynny a gafodd eu lladd neu eu hanafu mor bell o gartref.

"Cofiwn yr aberth a'r golled a deimlwyd yn dilyn y frwydr erchyll hon."