Angen 'mynd i'r afael' â thlodi
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Angen 'mynd i'r afael' ag anghyfartaledd Caerdydd

29 Gorffennaf 2017 Diweddarwyd 08:59 BST

Mae'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd yng Nghaerdydd yn "broblem sylweddol" yn ôl arweinydd newydd y cyngor.

Ddeufis ers dechrau yn ei swydd, mae Huw Thomas yn dweud na all Caerdydd fod yn un o ddinasoedd mwya' blaengar y byd heb iddi leihau'r nifer o bobl sy'n crafu byw.