Pryder am ferch bump oed sydd ar goll o Gaergybi

Brian George Owens and Molly Owens Image copyright Heddlu'r Gogledd

Mae Heddlu'r Gogledd yn poeni am ferch bump oed sydd ar goll o ardal Caergybi.

Credir bod Molly Owens gyda'i thad. Roedd Brian George Owens fod gael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Gwener ond fe fethodd ag ymddangos.

Mae gwarant wedi ei chyhoeddi i arestio Brian Owens, ac mae'r heddlu yn apelio arno i gysylltu i ddweud bod y ddau yn ddiogel.

Dywedodd y Prif Arolygydd Sharon McCairn o Heddlu'r Gogledd: "Rydym am gael gwybod ymhle yn union y mae Molly ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni."

Mae gan Molly wallt golau, llygaid glas ac mae hi weithiau yn gwisgo sbectol binc.

Mae ei thad Brian Owens oddeutu 5' 9" o ran taldra, yn ddyn main gyda gwallt brown byr a llygaid glas.