Gwasanaeth arferol yng ngorsaf Y Fenni wedi mân anafiadau

Abergavenny rail station Image copyright Jaggery/Geograph

Mae gwasanaeth trên arferol bellach yng ngorsaf Y Fenni wedi i drên daro gwifrau trydan uwchben y cledrau nos Wener.

Cafodd tri o bobol fân anafiadau wedi iddynt gael eu taro gan wifrau am 18:00 wrth i wasanaeth trên o Gaergybi gyrraedd yr orsaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail bod y tri wedi cael eu cludo i'r ysbyty lleol ond eu bod wedi cael eu rhyddhau yn fuan gyda mân gleisiau.

Fore Sadwrn dywedodd llefarydd fod pob gwasanaeth trên yn yr orsaf bellach yn ôl i'r arfer.