Rhybudd i gadw draw o chwarel Cilyrychen

Cilyrychen quarry is regularly patrolled to keep people out

Mae rhybudd newydd gan Heddlu Dyfed Powys i bobl ifanc gadw draw o chwarel Cilyrychen yn Llandybie yn ystod gwyliau'r haf.

Yn 2012 bu farw Luke Somerfield o Ffair-fach wedi iddo fynd i drafferthion yn y dŵr yno.

Dywedodd John Hill o Heddlu Dyfed Powys "all e ddim pwysleisio digon y peryglon".

"Cadwch draw," meddai.

Mae 'na anogaeth i rieni hefyd gan reolwr y chwarel Andrew Sainty wrth iddo ofyn iddynt fod â ryw syniad lle mae eu plant yn y tywydd poeth gan fod plant yn "hoffi chwarae yn y dŵr".

Image copyright Google
Image caption Mae chwarel Cilyrychen yn llawn peryglon yn ôl yr heddlu