'Rhaid trafod dyfodol Gylfi Sigurdsson ar frys'

Gylfi Sigurdsson Image copyright Rex Features
Image caption Sgoriodd Gylfi Sigurdsson naw gôl i Abertawe tymor diwethaf

Dywed rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement, fod yn rhaid i ddyfodol Gylfi Sigurdsson gael ei drafod ar frys.

Mae'r Elyrch wedi gwrthod cynnig o £40m gan Everton am y chwaraewr canol cae o Wlad yr Iâ gan ddweud ei fod e'n werth £50m.

Oherwydd y darogan am y trosglwyddo doedd Sigurdsson ddim yn rhan o lwyddiant Yr Elyrch ddydd Sadwrn yn eu gêm gyfeillgar yn erbyn Birmingham. Fe drechont o ddwy gôl i ddim.

"Y penderfyniad gorau ar hyn o bryd yw i Sigurdsson beidio chwarae ond ry'n am i'r sefyllfa gael ei datrys yn fuan," dywedodd Clement.

'Rhaid cael y pris iawn'

Wrth gael ei holi a oedd Sigurdsson am adael Abertawe dywedodd Clement: "Nid yw e wedi dweud hynny - mae ganddo dair blynedd ar ôl ar ei gytundeb, mae e'n chwaraewr da ac ry'n am iddo i aros.

"Ond os yw clwb arall yn dymuno i'w gael rhaid iddynt dalu y pris y mae'r clwb yn credu sy'n iawn.

"Ry'n ni mewn safle da - os gawn ni bris da mi allwn ail fuddsoddi'r arian i wella'r tîm ond os na chawn y pris iawn mi gawn gadw chwaraewr da."

Cadarnhaodd Clement fod trafodaethau ar y gweill am drosglwyddiad posib ond nad yw Everton wedi codi eu cynnig gwreiddiol o £40m.

Mae Abertawe eisoes wedi gwrthod cynnig tebyg gan Gaerlŷr am y chwaraewr o Wlad yr Iâ.