Brwydr Passchendaele : 'Ymhob bedd mae fy mab i'

beddau passchendaele

Bydd y seremonïau cyntaf yn cael eu cynnal ddydd Sul ym Mhrydain a Gwlad Belg i nodi canrif ers brwydr Passchendaele yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Nos Sadwrn cafodd cyngerdd ei gynnal yn Eglwys Langemark, Fflandrys - cyngerdd a oedd yn cynnwys cantorion a diddanwyr o Gymru.

Cafodd hanner miliwn o ddynion eu lladd neu eu hanafu yn ystod tri mis a hanner o frwydro ger tref Ypres.

Roedd y bardd Hedd Wyn ymhlith deng mil ar hugain a gafodd eu lladd ar ddiwrnod cynta'r frwydr - union ganrif i ddydd Llun.

Image caption Yr Archdderwydd Geraint Llifon yn pryderu nad oes heddwch o hyd yn ein byd

Mae cannoedd o Gymry wedi teithio i Wlad Belg ar gyfer y seremonïau cofio - yn eu plith Yr Archdderwydd Geraint Lloyd Owen (Geraint Llifon).

'Hanes na ddylid ei golli'

Dywedodd: "Dwi erioed wedi bod yma o'r blaen ond lle bynnag mae rhywun yn mynd 'dach chi'n cael eich symud efo teimlad ... 'dach chi'n ymwybodol iawn o'r gorffennol a be ddigwyddodd yn y lle ma.

"Un o filoedd oedd Hedd Wyn - fel dwedodd fy mrawd bach rhywdro 'Ymhob bedd mae fy mab i' - dyma hanes na ddylen ni ei golli nac anghofio amdano.

"A oes heddwch? Na does dim heddwch o hyd a mae hynna'n poeni rhywun yn ofnadwy."

Image caption Cofeb gan un o ddisgyblion Ysgol Hedd Wyn
Image caption Aelodau o Gôr Meibion Prysor yn gosod cofebau wedi eu gwneud gan blant Ysgol Bro Hedd Wyn

Ymhlith eraill sydd wedi teithio i wlad Belg mae Côr Meibion Prysor ac yn ogystal â diddanu mae nhw hefyd yn gosod cofebau wedi eu gwneud gan blant Ysgol Hedd Wyn. Mae nhw'n ymweld â 22 o feddau dros y penwythnos.

Ddydd Llun bydd gwasanaeth i gofio am Hedd Wyn a'r bardd Gwyddelig Francis Ledwidge yn cael ei gynnal ym mynwent Artillery Wood.

Wedi hynny, bydd seremoni goffa genedlaethol yn cael ei chynnal wrth y gofeb Gymreig yn Passchendaele.

Yn ôl cadeirydd Cymru'n Cofio, Yr Athro Deian Hopkin, mae cofio diwrnod cyntaf Trydedd Brwydr Ypres yn benllanw'r cofio ar ryw ystyr "wrth i ni gofio am Hedd Wyn a thalentau eraill a gollwyd ar faes y gad".