Disgwyl i Leigh Halfpenny ymuno â'r Scarlets

Leigh Halfpenny Image copyright Lluniau Getty

Mae adroddiadau fod Leigh Halfpenny ar fin ymuno â rhanbarth Scarlets ar gytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru.

Does gan gefnwr Cymru a'r Llewod ddim clwb ar hyn o bryd ar ôl i'w gytundeb tair blynedd gyda Toulon ddod i ben.

Yn ôl papur newydd The Times, mae'r gŵr 28 oed wedi dewis ymuno â'r Scarlets yn hytrach na'r Gleision, oedd hefyd yn ceisio ei ddenu.

Bu Halfpenny yn chwarae i'r Gleision nes iddo adael y rhanbarth i ymuno â Toulon yn 2014.

Toulon yn newid meddwl

Roedd disgwyl iddo aros gyda'r clwb yn Ffrainc am flwyddyn arall, ond fis Mehefin daeth y cyhoeddiad gan y perchennog, Mourad Boudjellal, na fyddai'r clwb yn adnewyddu ei gytundeb.

Yn ôl Boudjellal roedd y cefnwr wedi colli gormod o gemau'r clwb oherwydd anafiadau a gemau rhyngwladol.

Y tebygrwydd yw y byddai Halfpenny yn ymuno â'r Scarlets ar gytundeb tair blynedd, fydd yn cael ei ariannu ar y cyd rhwng y rhanbarth o'r gorllewin ac Undeb Rygbi Cymru.

Straeon perthnasol