Beiciwr modur wedi'i anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad

Ffordd Marine Image copyright Google
Image caption Cafodd Ffordd Marine ei chau yn dilyn y gwrthdrawiad

Mae beiciwr modur wedi ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych.

Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Marine, Prestatyn am tua 08:50 fore Llun yn dilyn y digwyddiad rhwng beic modur a fan.

Fe gafodd y beiciwr modur ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Mae'r ffordd wedi ei chau am y tro, ac mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio ar unrhyw un oedd yn dyst i'r gwrthdrawiad i gysylltu â'r llu.