Capten yn synnu'r meddygon

capten

Ar ôl niwed ar ei ymennydd, doedd y meddygon ddim yn obeithiol y byddai'r cyn Gapten Brian Thomas o ogledd Sir Benfro yn gwella. Ond yn wyrthiol, mae'r gŵr o Borthgain wedi goroesi a hyd yn oed rhedeg hanner marathon. Mae'n rhannu ei stori gyda Cymru Fyw.

Roedd hi'n ddiwrnod o haf yn ôl ym mis Gorffennaf 2011, ag yntau wedi mynd am ei dro bach arferol ger ei gartref ym Mhorthgain fe ddisgynnodd Brian Thomas yn anymwybodol.

"Doedden i ddim mewn poen, ro'n i'n mwynhau'r cerdded, a'r llwybr yn gyfarwydd iawn," meddai Brian, a oedd yn gweithio ar y môr am flynyddoedd fel Capten yn y Llynges.

Ond er ei gerddediad cadarn, daeth ton o boen drosto.

"Ro'n i mewn poen enbyd, do'n i ddim wedi profi'r fath deimlad yn fy myw. Doedd dim syniad gen i fod y fath boen yn bodoli."

Yn ei wendid, disgynnodd ar y llawr. Diolch byth, meddai, daeth dynes i'w achub.

"Ro'n i wedi perswadio fy hun fy mod i'n marw, bod fy amser ar y ddaear yma wedi dod i ben," meddai.

Doedd dim arwydd pendant, meddai eto, er iddo oddef anaf ar ei ben pan oedd yn chwarae rygbi yn 2001, a chael tair clot, ond dywedodd yr arbenigwyr y byddai'n diflannu gydag amser.

"Yn dilyn hynny am rai blynyddoedd, roedd gen i ychydig o ddolur ar fy nerf optig, ond feddyliais i ddim am y peth," meddai.

"Roedd gen i 20/20 vision ac roedd fy iechyd i'n berffaith."

'Mor Fawr Wyt Ti'

Roedd Brian Thomas mewn coma am 28 niwrnod, gydag anaf difrifol i'w ben.

"Roedd y prognosis gwreiddiol yn dangos na fydden i'n dod drwyddi, ac fe roedd gen i 17 o bibelli a dyfeisiau yn fy nghadw i mewn coma.

"Hyd yn oed os fydden i wedi dod drwyddi, roedd y doctoriaid wedi paratoi fy nheulu y bydden i methu cerdded, a byddai hyn yn cael effaith ar fy lleferydd a fy nghof; ac y bydden nhw'n gorfod gofalu amdana i am weddill fy mywyd."

Yn wyrthiol iawn, fe wnaeth Brian Thomas oroesi, a thri mis ar ôl hynny, cafodd fynd adre.

Chwe mis yn ddiweddarach, fe wnaeth ddychwelyd i'w swydd fel morwr, ac o fewn blwyddyn, fe redodd Hanner Marathon Caerdydd.

Image caption Brian yn cystadlu yn Hanner Marathon Caerdydd

"Un o'r pethau wnaeth gael effaith mawr arna i pan o'n i mewn coma oedd yr emyn, 'Mor Fawr Wyt Ti', fy hoff emyn," meddai.

Daeth ei chwaer a'r gân i'r ysbyty ar ei ipod, ac ar ôl munud o wrando, agorodd ei lygaid, ac roedd 'na ddagrau yn llifo lawr ei ruddiau.

"Dwi ddim yn un sy'n dweud 'na' i unrhyw beth, a dyna sydd wedi fy ngyrru i 'mlaen i frwydro," meddai Brian.

Er bod un o'i goesau wedi ei barlysu ychydig, wnaeth ddechrau cerdded milltir bob dydd yn fuan ar ôl dod allan o'r ysbyty.

"Wnaeth hynny gynyddu i bum milltir ar ôl hynny. Ro'n i'n bwyta'n dda, wedi colli pwysau, yn cysgu'n dda, yn cadw'n heini'n gorfforol a meddyliol. Roedd yr holl ddoctoriaid mewn rhyfeddod gyda fy nghynnydd!"

Geiriau'n gysur

Erbyn hyn, mae Brian Thomas wedi troi at farddoni'n Saesneg, ac mae ei gariad at gerddoriaeth yn tyfu.

"Mae cerddoriaeth wastad wedi bod yn flaenllaw yn fy mywyd, ac yn rhan o bwy ydw i," meddai.

"Ro'n i mor ddiolchgar ar ôl popeth i fod yn fyw, roedd yn rhaid i fi roi rhywbeth yn ôl.

"Roedd gen i gymaint i'w ddweud, ac ro'n i eisiau ysgrifennu am fy mhrofiadau, a'r nod o'r dechrau oedd ceisio helpu eraill," meddai.

O roi beiro ar bapur ym mhob math o lefydd, mae wedi llunio amryw o gerddi o'i atgofion o fod mewn coma, breuddwydion, a'i frwydr hyd yma.

"Maen nhw'n dangos y flashes ro'n i'n eu cael wrth orwedd mewn coma. Mae rhai o'r cerddi yn ddramatig iawn, a gobeithio bod y geiriau'n bwerus ac yn ysbrydoli pobl eraill."

Y gobaith nawr, meddai, yw cyfieithu ei gerddi i'r Gymraeg.

Image caption Brian yn darllen ei farddoniaeth

Stori: Llinos Dafydd