Cymeradwyo datblygiad sinema a bwytai yn Hwlffordd

Hwlffordd Image copyright Holder Mathias Architects
Image caption Mae cwmni sinemâu Reel eisoes wedi ymrwymo i fod yn rhan o'r cynllun

Mae cynlluniau am sinema pum-sgrîn a phedwar bwyty ar lan Afon Cleddau yn Sir Benfro wedi cael eu cymeradwyo.

Fe wnaeth pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Penfro bleidleisio o blaid prosiect cwmni Fairacre i ailddatblygu safle presennol siop Wilko yn Hwlffordd.

Clywodd y pwyllgor y byddai'r datblygiad ar Heol y Bont yn cyflogi tua 80 o bobl.

Cafodd cais am ddatblygiad tebyg ar Lôn Slade yn y dref ei dynnu 'nôl gan gwmni Conygar ym mis Mehefin.

Dywedodd Jeannie Pritchard o Fairacre y byddai'r ailddatblygiad yn darparu "cyfleoedd eang i'r adwerthwyr presennol" yn ogystal â denu rhai newydd.

Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar ddatblygu'r farchnad gerllaw yn llyfrgell, galeri a chaffi.

Straeon perthnasol