Gwrthod cynnig o £7m am ymosodwr Cymru, Tom Lawrence

Tom Lawrence Image copyright Getty Images
Image caption Lawrence yn chwarae i Gymru yn erbyn Gogledd Iwerddon ym mis Mawrth 2016

Mae Caerlŷr wedi gwrthod cynnig o £7m gan Derby am ymosodwr Cymru Tom Lawrence, yn ôl BBC Radio Derby.

Dim ond pedair gwaith mae'r Cymro wedi chwarae dros Gaerlŷr ers ymuno o Manchester United yn 2014.

Yn y cyfnod hwnnw, mae wedi bod ar fenthyg yng Nghaerdydd, Blackburn ac - yn fwya' diweddar - yn Ipswich.

Fe sgoriodd 11 gôl i Ipswich y tymor diwethaf, ond dywedodd eu rheolwr bod gan y clwb "ddim gobaith" ei arwyddo'n barhaol.

Ers ennill ei gap cyntaf i'w wlad yn 2015, mae Lawrence - sy'n dod o Sir y Fflint - wedi cynrychioli Cymru ar chwe achlysur.