Y Gymraeg yn ysbrydoli

Bydd Dysgwr y Flwyddyn 2017 yn cael ei ddatgelu ar nos Fercher 9 Awst yn yr Eisteddfod Genedlaethol?

Ond beth yw'r heriau sy'n wynebu'r unigolion sydd wedi penderfynu mynd ati i ddysgu Cymraeg?

Pwy well i roi gair o gyngor 'na rhai o gyn enillwyr y tlws:

John Gillibrand - Dysgwr y Flwyddyn 1990

Dechreuais ddysgu Cymraeg yn yr 1980au tra'n hyfforddi fel offeiriad gyda'r Eglwys yng Nghymru. Wrth i mi fynd ymlaen gyda'r dysgu, deallais fwy am bwysigrwydd yr iaith.

Y peth pwysicaf yw gwrando ar bobl eraill yn siarad Cymraeg, ar y stryd, yn y siopau, ac ar y teledu a'r radio.

Mae'r Gymraeg yn hanfodol i fy ngwaith i fel offeiriad, i alluogi pobl i siarad am bobl o dragwyddol bwys yn eu hiaith gyntaf.

Mae fy ngwraig yn dysgu'r Gymraeg, ac mae Peter ein mab, yn gadael Ysgol Bro Myrddin eleni wedi derbyn ei addysg bron yn gyfan gwbl trwy'r Gymraeg.

Image copyright Paul Elliott

Paul Elliott - Dysgwr y Flwyddyn 1994

Ar ôl graddio ces i swydd yn Birmingham (gyda chwmni 'Cadburys') a thrwy bod yn alltud dechreuais i edrych nôl ar Gymru trwy sbectol newydd, gyda hiraeth. Felly prynais gwrs hunan-ddysgu gyda llyfr a thapiau, wedyn un arall, wedyn cwrs dosbarth nos ac yn y diwedd penderfynais i chwilio am swydd nôl yng Nghymru. Ac fe laniais i yng Nghaerdydd, a dyma fi ers hynny.

Fel pob sgìl arall mae fy Nghymraeg yn mynd yn rhydlyd os nad ydw i'n gwneud yr ymdrech i'w defnyddio'n gyson.

Image copyright cymdeithas cymru ariannin

Sandra de Pol - Dysgwr y Flwyddyn 2000

Mae dysgu'r iaith wedi gwyrdroi fy mywyd yn gyfan gwbl. Ar ôl y flwyddyn gyntaf o ddysgu'r iaith yn y Wladfa - roedd y Gymraeg yn iaith y teulu wedyn er fy mod wedi fy magu yn ninas La Plata yn Ariannin.

Dechreuais ddysgu Cymraeg mewn dosbarth nos ddwywaith yr wythnos. Ar ôl hynny, cefais y fraint i ddod i Gymru i ddilyn cwrs dwys yn Llanbedr Pont Steffan am wyth wythnos, ac ar ôl hynny wedyn, chwech wythnos yng Ngholeg y Drindod.

O hynny ymlaen roeddwn yn cynorthwyo yn nosbarthiadau nos y Prosiect yn Nhrevelin ac Esquel.

Roedd ennill y gystadleuaeth yn brofiad gwefreiddiol! Dyna'r gair sy'n disgrifio orau sut o'n i'n teimlo am yr holl sefyllfa.

Joella Price - Dysgwr y Flwyddyn 2014

Pan on i'n byw yn Nottingham (yn astudio i fod yn nyrs) nes i geisio defnyddio beth bynnag Cymraeg oedd gyda fi ar y pryd yn y grŵp cymdeithas Cymry Nottingham a Derby gyda Jonathan Simcock unwaith y mis a hefyd o'n i'n ceisio siarad tipyn bach gyda fy ffrind Mark Davies dros Skype. Nawr dwi'n siarad yr iaith yn well felly dwi'n defnyddio hi'n fwy aml.

O'n i bach yn swil pan nes i ddechrau siarad â Chymry Cymraeg ond nes i fwynhau y broses o'r dechrau.

Ewch amdani, s'dim ots os 'dych chi'n 'neud camgymeriadau achos dwi yn... bob dydd! Mwynhewch y broses. Mae'n anodd, mae'n rhwystredig ond mae'n hwyl.

Gary Bevan - Dysgwr y Flwyddyn 2015

Ar y dechre', doedd hi ddim yn hawdd. Roedd Sian [fy ngwraig] a fi wedi arfer siarad yn Saesneg â'n gilydd, ac roedd hi'n anodd, anodd iawn.

Ti'n teimlo mor anghyfforddus a mor nerfus ac o'n ni'n troi i Saesneg lot, ac ro'dd 'na fisoedd pan o'n ni ddim yn siarad Cymraeg gyda'n gilydd. Ond nawr, ni wedi dod trwyddi a ni'n berffaith gyfforddus.

Roedd hi'n rhwyddach dysgu drwy siarad â'r plant. Roedden nhw'n dysgu yn yr ysgol a ddim yn chwerthin os fydden ni'n gwneud camgymeriadau ac felly ro'n i yn fwy cyfforddus yn siarad â nhw.

Ry'n ni i gyd erbyn hyn yn sgwrsio ac yn byw ein bywydau yn Gymraeg. Dweud y gwir, nawr mae'n anodd dychmygu siarad Saesneg gartre.