Dyn wedi marw ar ôl disgyn wrth gerdded Yr Wyddfa

achub ar yr wyddfa Image copyright Tîm achub mynydd Llanberis

Mae dyn wedi marw wrth gerdded Yr Wyddfa ddydd Llun ar ôl disgyn dros 200 troedfedd.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod gan dîm achub mynydd Llanberis wedi iddo ddisgyn oddi ar lwybr Pen y Gwryd tuag at Lwybr y Mwynwyr.

Roedd yr hofrennydd achub wedi methu â chynorthwyo yn yr ymdrechion oherwydd y tywydd a'r lleoliad.

Dyw Heddlu'r Gogledd ddim wedi gwneud sylw am y digwyddiad.