Mae Josh Griffiths yn edrych ymlaen at y ras
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Rhedwr o Gymru yn 'edrych ymlaen' at ei ail farathon

6 Awst 2017 Diweddarwyd 12:49 BST

Mae Cymro a redodd ei farathon cyntaf mewn dwy awr 14 munud yn 'edrych ymlaen' at ei ail farathon ym Mhencampwriaeth Athletau'r Byd.

Gobaith Josh Griffiths, 23, sydd yn rhedeg gyda chlwb rhedeg y Swansea Harrier ym mis Ebrill oedd rhedeg marathon Llundain mewn llai na dwy awr 16 munud, yr amser cymhwyso yng Nghymru ar gyfer y Gemau Gymanwlad.

Fe synnodd nifer wrth ddod y Prydeiniwr cyntaf i gwblhau'r marathon ac ennill ei le yn y bencampwriaeth.

Mae'n dweud ei fod yn "edrych ymlaen" at y ras ddydd Sul.