Tafodiaith Môn

Fflachod - pâr o esgidiau gwael neu flêr
Image caption Gall 'fflachod' fod yn hynod gyfforddus - perffaith ar gyfer crwydro'r maes.

Ar drothwy'r Eisteddfod Genedlaethol, mae Cymru Fyw wedi paratoi rhestr fer i diwnio clustiau gweddill trigolion Cymru i seiniau unigryw iaith lafar Ynys Môn.

Mwy am Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ar Cymru Fyw.


Clio - Roedd gan blant Ynys Môn ofn mawr o'r Clio. Llong ysgol oedd yr HMS Clio, wedi ei angori oddi ar bier Bangor o 1877-1922, a dyma lle fyddai rhieni yn anfon plant a oedd yn cambihafio a ddim yn gwrando. Roedd yn fygythiad a ddofai unrhyw 'sterics am ddegwadau wedi hynny.

Codog - Os yw rhywbeth yn godog mae'n golygu ei fod o ansawdd gwael. Mae 'panad godog' yn ymylu ar fod yn bechod ym Môn.

Image caption HMS Clio - ble roedd plant Ynys Môn yn cael eu hanfon os oedden nhw'n cambihafio...!

Chwiws - Ym Môn yn unig y gelwir gwybed neu glêr yn chwiws. Mae'r ffurf unigol yn amrywio rhwng 'chwiw' neu 'chwiwsan'.

Fflachod - Pâr o esgidiau gwael neu flêr yw fflachod. Nid oes o reidrwydd angen i'r esgidiau fod yn hen i fod yn fflachod. Gall fflachod fod yn hynod gyfforddus.

Ffunan bocad - Dyma'r enw ar hances neu facyn poced ym Môn.

Gwelltglaetsh - Glaswellt. Ar ôl i'r cyngor fod yn torri glaswellt cae'r ysgol, roedd "ti'n welltglaetsh drostat ar ôl bod ar y cae'n chwarae" yn frawddeg gyffredin yng nghartrefi'r plant.

Hen jadan - Gair sarhaus i ddisgrifio dynes gas ac annifyr, neu ddynes sydd wedi gwneud rhywbeth cas, dan-din.

Hogia - Caiff hogia ei ddefnyddio y tu hwnt i Fôn fel y lluosog o 'hogyn' (bachgen), ond ym Môn yn unig y mae'n cael ei ddefnyddio i sôn am blant yn gyffredinol. Er enghraifft "Hogia'r ysgol" neu "Tyrd â'r hogia efo chdi."

Pegan - Cael dy dwyllo yw ystyr cael pegan. "Mi ges di began yn prynu'r tryc 'na."

Picadili - Ffrinj gwallt. "Mae angen torri dy bicadili di cyn i'r ysgol ail-ddechrau".

Image caption Mae picadili Lucy Owen bob amser yn edrych ar ei orau!

Picio - Os nad yw'n fwriad gennyt ti aros yn rhywle yn hir, yna ym Môn picio yno fyddi di. "Fydda i'n picio i Langefni amser cinio", "Dw i'n picio i weld Nain ar fy ffordd adra".

Rwdan - Swejen, meipen, erfinen. Mae stwnsh rwdan yn un o brydau nodedig yr ynys. Nid oes cyfieithiad ohono wedi cyrraedd Caergybi eto: "We'll have some stwnsh rwdan tonight, yeah."

Cofiwch ymarfer rhain yn ddiwyd er mwyn siarad efo'r bobl leol.

Ymwadiad: Dydyn ni ddim yn addo y bydd pob gair yn ddefnyddiol o gwbl ar y Maes nac yn yr ardal gyfagos.