Un sy'n ymddangos yn y ddrama yw'r actor Gwyn Vaughan
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Drama Wylfa: 'Troi mater lleol yn un cenedlaethol'

3 Awst 2017 Diweddarwyd 08:29 BST

Cynlluniau i adeiladu gorsaf bŵer niwclear Wylfa Newydd fydd testun drama yn agos at faes y brifwyl ar Ynys Môn.

Hollti ydy enw'r cynhyrchiad gan y Theatr Genedlaethol, ond geiriau cymeriadau bywyd go iawn fydd yn cael eu darllen gan actorion ar lwyfan Theatr Bro Alaw.

Mae'r actor Gwyn Vaughan yn gobeithio y bydd y ddrama yn ddechreuad i drafodaeth genedlaethol ar ynni niwclear.