Pryder undeb am 'breifateiddio' rheilffyrdd de Cymru

Metro De Cymru Image copyright Llywodraeth Cymru

Mae'r undeb gweithwyr rheilffordd yn dweud eu bod wedi "dychryn" gan gynlluniau maen nhw'n honni fydd yn arwain at breifateiddio gwerth £5bn.

Yn ôl undeb yr RMT, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu preifateiddio'r gwaith mae Network Rail yn ei wneud fel rhan o brosiect Metro De Cymru.

Ond dywedodd y llywodraeth nad oes "cynllun i breifateiddio unrhyw ran o'r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru".

Mae'r undeb wedi ysgrifennu at y prif weinidog i alw am oedi'r cynlluniau.

'Penderfyniad wedi'i wneud'

Network Rail ydy'r corff sy'n gyfrifol am draciau rheilffordd a seilwaith.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe fydd rhannau o'r rheilffordd sydd dan reolaeth Network Rail yn dod dan reolaeth y llywodraeth yn sgil y cynlluniau newydd, ond bydd cwmni preifat yn eu gweithredu.

Dywedodd Mick Cash, ysgrifennydd cyffredinol yr RMT, ei fod yn "synnu bod Llywodraeth Cymru'n gwadu mai preifateiddio ydy hyn".

"Dwi wedi cwrdd â chydweithwyr o Trafnidiaeth Cymru i fynd drwy rhyddfraint Cymru a'r Gororau", meddai.

"Roedd y cyfarfod yn sham ac mae'n gwbl amlwg i mi bod y penderfyniad wedi'i wneud i roi lein cymoedd y de ac adolygiad Hansford o Network Rail i'r sector breifat yn ne Cymru.

"Mae wedi cadarnhau i mi mai'r dewis iddyn nhw yw preifateiddio Network Rail. Mae angen dod â'r cynllun i ben ac rydym yn rhoi'r cyfle i Carwyn Jones symud yn ôl o'r dibyn."

Dywedodd Dai Lloyd AC o Blaid Cymru ei fod yn cefnogi galwad yr undeb a galwodd ar lywodraethau Cymru a'r DU i "ddatblygu corff seilwaith rheilffordd Cymreig sy'n annibynnol o Network Rail".

'Gwasanaethau gwell'

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru bydd "rhyddfraint y rheilffordd newydd a Metro De Cymru yn dod dan reolaeth Llywodraeth Cymru a bydd y seilwaith yn parhau ym meddiant y sector gyhoeddus".

"Does gan Lywodraeth Cymru ddim cynllun o gwbl i breifateiddio unrhyw ran o'r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru", meddai.

"Bwriad hyn yn y diwedd yw dod â'r cledrau a'r trenau at ei gilydd yng Nghymru er budd teithwyr, gan roi blaenoriaeth i ddiogelwch.

"Bydd ein ffordd o weithio yn dod â gwasanaethau gwell i deithwyr, gwell trenau a phrofiad teithio llawer gwell a sicrhau bargen newydd i deithwyr."