Heddlu'n ymchwilio i wrthdrawiad angheuol yn Rhydaman

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth wedi gwrthdrawiad angheuol rhwng dau gerbyd yn Rhydaman.

Bu farw dynes ac mae dyn wedi ei gludo i'r ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar ffordd Tycroes ger cyffordd Pantyffynon am 15:40 ddydd Iau.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng car Toyota Yaris a fan Iveco Daily.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101.