Morgannwg yn colli yn y glaw i Sir Gaerloyw

Jaques Rudolph
Image caption Fe gafodd Jaques Rudolph ei fowlio allan yn y pumed pelawd

Colli oedd hanes Morgannwg o bum rhediad yn erbyn Sir Gaerloyw yng Nghynghrair y De yn y gystadleuaeth 20 pelawd.

Wrth i'r glaw ddod a'r chwarae i ben yn gynnar roedd rhaid defnyddio dull Duckworth Lewis i benderfynu ar enillydd.

Roedd Sir Gaerloyw allan am 150-9 cyn i Forgannwg fatio.

Cyn i'r glaw ddisgyn roedd Morgannwg 32-2 ar ôl i Thisara Perera fowlio Jacques Rudolph allan wedi pum pelawd.

Gyda tharged o 151 fe fuasai'r ornest wedi bod yn gyfartal, oni bai am gampwaith Perera cyn y glaw.

Mae Morgannwg bellach bwynt ar y blaen i Hampshire yng Nghynghrair y De gyda Sir Gaerloyw fyny i'r pedwerydd safle.