Dyn yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio ym Mangor

elizabeth jordan Image copyright Hedldu Gogledd Cymru

Mae dyn 54 oed o Wynedd wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio ei gyn-wraig ym Mangor ddydd Llun.

Fe wnaeth Paul Martin Jordan o'r Felinheli ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Iau ar gyhuddiad o ladd Elizabeth Mary Jordan, 53.

Cafodd corff Mrs Jordan, oedd yn cael ei hadnabod fel Betty, ei ganfod mewn tŷ yn Nhrem y Garnedd ar stad Maesgeirchen ddechrau'r wythnos.

Fe gafodd Mr Jordan ei gadw yn y ddalfa i ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener.