Cytundeb deuol gyda Chymru a'r Scarlets i Leigh Halfpenny

Halfpenny Image copyright Ben Evans/Huw Evans Agency

Mae cefnwr Cymru, Leigh Halfpenny, wedi arwyddo cytundeb deuol tair blynedd gydag Undeb Rygbi Cymru a rhanbarth y Scarlets.

Roedd disgwyl y cyhoeddiad ers dyddiau, ond daeth cadarnhad y bydd y chwaraewr 28 oed yn dychwelyd i Gymru wedi tair blynedd gyda Toulon yn Ffrainc.

Daeth croeso i'r cyhoeddiad gan hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: "Mae'n newyddion gwych i Gymru... Mae'r system cytundebau deuol yn ein galluogi i ddod â'r chwaraewyr yma nôl ac rwy'n edrych ymlaen i'w weld yn chwarae i'r Scarlets."

Dyw Gatland erioed wedi cuddio'r ffaith ei fod yn ffafrio chwaraewyr sy'n chwarae i ranbarthau Cymru i'r tîm cenedlaethol.

Mae hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac, hefyd yn falch o gael Halfpenny ar y llyfrau, a dywedodd: "Wrth i ni golli profiad Liam [Williams] a DTH [van der Merwe] ar ddiwedd y tymor diwethaf, ry'n ni wedi ychwanegu talent newydd ifanc i'r garfan, ac mae boi fel Leigh yn dod â lot o brofiad y gall ei rannu gyda'r to ifanc."