Llofruddiaeth Bangor: Dyn yn y Llys

Betty Jordan Image copyright Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn o Wynedd sydd wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth wedi ymddangos o flaen Llys y Goron Yr Wyddgrug fore Gwener.

Mae Paul Martin Jordan, 54 oed o'r Felinheli wedi ei gyhuddo o lofruddio Betty Jordan, 53, fore Llun yn Nhrem y Garnedd, Maesgeirchen, Bangor.

Mae Paul Jordan, sy'n gyn ŵr i Ms Jordan wedi ei gadw yn y ddalfa gan y Barnwr Eleri Rees.

Ni wnaeth Mr Jordan siarad yn ystod y gwrandawiad, dim ond cadarnhau ei enw.

Mae gwrandawiad ple wedi ei drefnu ar gyfer 4 Hydref, ac mae disgwyl y bydd achos yn llys y goron ym mis Ionawr 2018.