Gwrthdrawiad Sir Ddinbych: Dyn wedi marw

Heddlu

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Sir Ddinbych fore Gwener.

Fe gafodd yr heddlu eu galw am 07:15 wedi gwrthdrawiad ar ffordd yr A525 rhwng Dinbych a Rhuthun.

Bu farw dyn yn ei 60au o ardal Yr Wyddgrug, oedd yn gyrru beic modur yn y fan ar lle.

Mae'r gwasanaethau brys yn parhau i fod yn bresennol yn y lleoliad ac mae disgwyl i'r ffordd fod ar gau am y tro.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101.