Teyrngedau i'r ysgolhaig yr Athro D J Bowen

DJ Bowen / Prifysgol Aberystwyth Image copyright Prifysgol Aberystwyth / Geograph
Image caption Graddiodd yr Athro D J Bowen gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i un o awdurdodau mwyaf ar feirdd yr Uchelwyr a hanes llenyddiaeth Cymraeg.

Bu farw'r Athro Emeritws David James Bowen yn 92 oed.

Yn wreiddiol o Sir Benfro, graddiodd yr Athro Bowen gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf o Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1949, cyn mynd ymlaen i ennill gradd MA.

Dywedodd Prifysgol Aberystwyth ei fod yn "un o'n hawdurdodau mwyaf ar waith Beirdd yr Uchelwyr".

Bu'n aelod o staff Adran Llawysgrifau'r Llyfrgell Genedlaethol am gyfnod, cyn cael ei benodi'n ddarlithydd yn ei hen Adran yn 1953.

'Ysgolhaig disglair'

Roedd yn arbenigo ar waith Dafydd ap Gwilym a'r Cywyddwyr Cynnar, ac fe gyhoeddodd astudiaeth o waith y pencerdd Gruffudd Hiraethog yn 1980.

Yn ôl yr Athro Gruffydd Aled Williams, roedd yr Athro Bowen yn un o "brif ysgolheigion ei genhedlaeth".

Ychwanegodd: "Roedd ei gyfraniad yn helaeth iawn yn ei faes o osod canu'r cywyddwyr yng nghyd-destun y cefndir hanesyddol a chymdeithasol.

"Lluniodd gynllun ymchwil uchelgeisiol ar gyfer sawl cenhedlaeth o ymchwilwyr ymhell cyn i'r syniad o lunio prosiectau o'r fath gydio yn y prifysgolion.

"Bydd llawer o'i gydweithwyr a'i gyn-fyfyrwyr yn cofio ei ysgolheictod disglair a'i gyfraniad amhrisiadwy i hanes llenyddiaeth Gymraeg."