Modou Barrow yn gadael Abertawe am Reading

Modou Barrow Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Modou Barrow yn cynrychioli tîm cenedlaethol Gambia

Mae Abertawe wedi gwerthu'r asgellwr Modou Barrow i Reading am £1.5m.

Fe ymunodd Barrow, 24, â'r Elyrch o dîm FK Ostersunds o Sweden am yr un pris ym mis Gorffennaf 2014.

Chwaraeodd 55 o weithiau dros Abertawe, gan sgorio dwy gôl.

Ond treuliodd dipyn o'i gyfnod gyda'r Elyrch ar fenthyg, gan chwarae i Blackburn, Nottingham Forest ac - yn fwya' diweddar - Leeds.