Dyfarniad tribiwnlysoedd yn arwain at sefyllfa 'gymhleth'

Tribiwnlysoedd Cyflogaeth.

Mae cyfreithiwr ym maes cyflogaeth yn dweud fod dyfarniad diweddar ar ffioedd tribiwnlysoedd cyflogaeth yn un hanesyddol, ond y gallai arwain at sefyllfa "gymhleth".

Yr wythnos diwethaf, dyfarnodd y Goruchaf Lys fod penderfyniad Llywodraeth y DU i gyflwyno ffi ar achosion gweithwyr yn erbyn eu cyflogwyr yn anghyfreithlon.

Cafodd y ffioedd eu cyflwyno yn 2013, a'r nod oedd i dorri'n ôl ar achosion "maleisus a gwan", ond mae'r dyfarniad yn golygu y bydd yn rhaid i'r llywodraeth ad-dalu £332m i hawlwyr.

'Dim gwybodaeth'

Yn ôl Esyllt Green, cyfreithiwr cyflogaeth gwmni Capital Law yng Nghaerdydd mae'r newyddion yn debygol o olygu cynnydd yn nifer yr achosion.

Mae'n croesawu'r dyfarniad ond yn rhybuddio y bydd y broses o ad-dalu'r ffioedd yn un cymhleth.

"Mae'r Arglwydd Ganghellor wedi gwneud addewid fod pawb sydd wedi talu ffi ers 2013 yn mynd i gael ad-daliad," meddai Ms Green wrth Cymru Fyw.

"Does dim gwybodaeth gyda ni am sut mae hynna'n mynd i ddigwydd eto, ac ry' ni'n disgwyl hynna unrhyw bryd nawr.

Image caption Undeb Unsain aeth â'r achos i'r Goruchaf Lys

"Yn amlwg, mae hynna'n mynd i gostio yn fawr iawn i'r system tribiwnlys a dwi'n siŵr y bydd y system yn eitha cymhleth i gael yr ad-daliad, ond bydd unrhyw un sy'n talu ffi yn cael ad-daliad.

"Fydd hi'n gymhleth o ran y wybodaeth fydd yn rhaid i'r hawlydd ei roi er mwyn profi eu bod nhw wedi talu a phethau.

"Mewn rhai achosion... y cyflogwr ar ddiwedd y dydd wnaeth ad-dalu'r ffi i'r hawlydd.

"Yn y sefyllfa yna... y cyflogwr sydd allan o boced ynglŷn â'r ffi yna ond yr hawlydd sydd â'r holl wybodaeth... felly bydd y sefyllfa yna yn anodd iawn i'w dadansoddi."

Effaith 'sylweddol' ar Gymru

Mae Ms Green yn dweud fod codi'r ffi yn 2013 wedi effeithio'n fawr ar weithwyr yng Nghymru gyda 80% yn llai o hawliadau am fethu talu cyflog, tâl gwyliau neu dâl diswyddo wedi mynd i dribiwnlys, ac unigolion yn penderfynu peidio ymladd achos am fod yr ad-daliad ddim yn sylweddol.

Image caption Mae Esyllt Green o'r farn y bydd cynnydd yn nifer yr achosion yn dilyn y dyfarniad

Dywedodd: "Beth ni 'di gweld yng Nghymru yw bod yna effaith sylweddol wedi bod ar hawliadau.

"Os gofiwch chi, mae cyfradd cyflog pobl yng Nghymru yn lot llai na gweddill y Deyrnas Unedig, a falle bod y swm sy'n ddyledus iddyn nhw ddim ond yn gwpl o gannoedd, ond eto mae hawl gyda nhw i'r arian yna.

"Pan oedd y gweithwyr yna'n edrych am fynd â'r achos ymlaen a talu ffi o £160 er mwyn dim ond cael cwpl o gannoedd yn ôl, roedd y gweithwyr yna'n meddwl, wel sdim pwynt mynd drwy yr hassle o achos tribiwnlys jyst er mwyn cael efallai cwpl o ddegau o bunnoedd yn ôl.

"Dwi'n meddwl yn sicr y bydd yr achosion yn cynyddu achos fe fydd hi'n hawdd nawr i rywun sy'n meddwl eu bod nhw wedi cael cam gan ei cyflogwr i ddod â hawliad o flaen y tribiwnlys."