Ffatri ganabis: Carcharu miliwnydd

nawaz manuf Image copyright Wales News Service
Image caption Mohammed Nawaz ac Abdul Manuf

Fe gafodd miliwnydd ei garcharu wedi i hen ganolfan hamdden gael ei droi'n ffatri ganabis enfawr gan gang o droseddwyr.

Roedd y dyn busnes Mohammed Nawaz, 68 oed, yn berchen ar nifer o adeiladau ar draws Prydain, ac roedd yn caniatáu i werthwyr cyffuriau i'w defnyddio fel ffatrïoedd canabis.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Nawaz wedi rhentu eiddo i Abdul Manuf, gan gynnwys hen ganolfan hamdden Underwood yng Nghasnewydd. Cafodd y ganolfan ei chau oherwydd toriadau i gyllideb cyngor a'i gwerthu am £82,000 mewn ocsiwn.

Pan wnaeth yr heddlu gynnal cyrch ar yr adeilad yn 2014 fe ddaethon nhw o hyd i 2,600 o blanhigion canabis oedd yn cael eu tyfu "ar raddfa ddiwydiannol", ac fe fydden nhw wedi cynhyrchu 132kg o'r cyffur.

Image copyright Wales news service

Cafodd Nawaz, oedd wedi gwadu cynllwynio i gynhyrchu cyffur ond a gafwyd yn euog, ei garcharu am saith mlynedd.

Plediodd Manuf yn euog i'r un cyhuddiad ac fe gafodd ei garcharu am dair blynedd a mis.

Dywedodd y barnwr Neil Bidder QC: "Trachwant oedd y prif symbyliad i chi, ac fe wnaethoch chi ganiatáu i droseddwyr ddefnyddio eich eiddo i dyfu canabis."