Cyhoeddi enw dyn fu farw ar ôl disgyn ar Yr Wyddfa

Wyddfa Image copyright Tîm Achub Mynydd Llanberis

Mae'r gwasanaethau brys wedi cyhoeddi enw dyn fu farw ar ôl disgyn mwy na 70 metr ar Yr Wyddfa ddechrau'r wythnos.

Fe wnaeth Malcolm William David Tinsley, 26 o Lannau Mersi, ddisgyn o lwybr ar y mynydd ddydd Llun.

Mae crwner gogledd-orllewin Cymru wedi lansio ymchwiliad i'w farwolaeth ddydd Gwener.

Mr Tinsley oedd yr ail berson mewn tri diwrnod i farw ar fynyddoedd Eryri, wedi i ddyn arall ddisgyn i'w farwolaeth ar fynydd Tryfan ychydig ddyddiau'n gynharach.