Morgannwg yn ennill gêm agos yn Surrey yn y T20

Wagg Image copyright Getty Images

Fe wnaeth Morgannwg ennill gêm agos yn erbyn Surrey yn yr Oval nos Wener, wrth iddi gael ei phenderfynu gyda'r bêl olaf.

Roedd sgôr gorau gyrfa Aneurin Donald hyd yn hyn - 76 rhediad o 40 pêl - wedi arwain Morgannwg at gyfanswm o 181-6.

Ond fe wnaeth Tom Curran daro 'nôl i Surrey gyda sgôr o 51, er i Marchant de Lange fowlio'n dda i'r ymwelwyr.

Roedd y tîm cartref angen chwe rhediad oddi ar y bêl olaf am gêm gyfartal, ond fe lwyddodd Michael Hogan fowlio'n gadarn i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Cymry.