Trefnwyr yn canmol 'uchafbwynt' cyngerdd agoriadol

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Cyngerdd Agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn

Mae'r Eisteddfod wedi cychwyn ag "uchafbwynt" gyda'r cyngerdd agoriadol, yn ôl cadeirydd y pwyllgor gwaith.

Dywedodd Derec Llwyd Morgan bod y cyngerdd, oedd yn nodi 100 mlynedd ers marwolaeth Hedd Wyn, yn "un o'r goreuon" yn hanes y brifwyl.

Yn ôl Mr Morgan, fe lwyddodd y digwyddiad "i goffáu [y Rhyfel Mawr] yn feirniadol, yn drist ac yn ddiplomatig, mewn ffordd".

Ychwanegodd bod angen i'r ŵyl gadw at y safon yn ystod gweddill yr wythnos.

'Plateau'

"Neithiwr fe gafwyd un o'r cyngherddau gorau dwi'n ei gofio, ac dwi 'di bod ym mhob Steddfod ond dwy ers 1960," meddai.

Dywedodd mai "cywaith rhwng nifer o sefydliadau" oedd y cyngerdd, oedd hefyd yn cynnwys nifer o berfformwyr lleol o Fôn.

Ychwanegodd: "Fe ddechreuodd y 'Steddfod hon ar uchafbwynt uchel dros ben a dwi'n gobeithio y cadwn ni ar y plateau neu fynd ychydig yn uwch eto - yn sicr 'dan ni ddim eisiau mynd i lawr."