Teyrnged i feiciwr modur a gafodd ei ladd

Robert Downs, 63, from Mold Image copyright Llun teulu

Mae teulu beiciwr modur a gafodd ei ladd mewn damwain yn sir Ddinbych ddydd Gwener wedi rhoi teyrnged iddo.

Roedd Robert Downs o'r Wyddgrug, meddent, wedi gwirioni ar feiciau modur.

Cafodd Mr Downs ei ladd mewn damwain ar ffordd gyswllt yr A525 rhwng Dinbych a Rhuthun.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd iddo farw yn syth.

Mewn teyrnged dywedodd teulu Mr Downs ei fod yn "dad ac yn daid cariadus".

"Roedd e'n ddyn caredig a oedd yn fodlon helpu unrhyw un. Roedd e'n gwirioni ar feiciau modur. Fe'n gadawodd mor sydyn ac fe fyddwn yn ei golli'n fawr. Fe fydd e wastad yn ein meddyliau a'n calonnau.

Mae plismyn yn apelio am dystion.