Burton Albion 0-1 Caerdydd

Zohore Image copyright Rex Features
Image caption Zohore yn cael ei gosbi am gamsefyll yn yr hanner cyntaf

Roedd buddugoliaeth i'r Adar Gleision yn eu gêm gyntaf yn y bencampwriaeth y tymor hwn a hynny wrth i Kenneth Zohore sgorio gôl hwyr.

Bu'n bron i'r Daniad, sgoriwr gorau Caerdydd y tymor diwethaf, sgorio yn yr hanner cyntaf ond cafodd ei gosbi am gamsefyll.

Roedd 'na fwy o dân ym mherfformiad Caerdydd ar ddechrau'r ail hanner ac roedd yna gyfle i Junior Hoilett cyn i'r bêl wyro oddi ar y postyn.

Zohore a sgoriodd unig gôl y gêm - dechrau perffaith i hanner canfed blwyddyn y rheolwr Neil Warnock ym myd pel-drôed.