Wrecsam 0-1 Macclesfield

Wrecsam Image copyright Getty Images
Image caption Mae Scott Boden bellach yn chwarae i Wrecsam - ddwy flynedd yn ôl roedd yn chwarae i Gasnewydd

Colli fu hanes Wrecsam yn ei gêm gyntaf y tymor hwn yn y Cynghrair Cenedlaethol wedi i Noe Baba sgorio i'r ymwelwyr ar ôl 12 munud.

Wrth siarad a'r BBC wedi'r gêm dywedodd rheolwr Wrecsam Dean Keates: " Nid dyma'r canlyniad ro'n ni ei eisiau ond fe chwaraeon ni lot gwell yn yr ail hanner.

"Gan ein bod yn chwarae adre ro'wn am greu lot o gyfleoedd ond doedd hynny ddim yn llwyddiannus ddydd Sadwrn ac roedd cic 30 llath Baba yn wych."

Roedd cefnogwyr Wrecsam wedi gobeithio y byddai yr ymosodiad ar Kelly yn yr ail hanner wedi sicrhau cic gosb ond nid dyna oedd penderfyniad y canolwr. Neil Hair.