Diwrnod da i'r Cymry yn y marathon

Josh Griffiths
Image caption Josh Griffiths yn dweud mai rhedeg yn y marathon yw uchafbwynt ei yrfa hyd yma

Mae'r rhedwr o Gymru yn dweud mai rhedeg ym marathon Pencampwriaeth Athletau'r Byd yw uchafbwynt ei yrfa hyd yma.

Fe orffennodd y rhedwr yn 39fed gan gwblhau'r marathon mewn 2:20.06.

Cymhwyso ym mis Ebrill wnaeth Josh Griffiths, sy'n 23, a hynny ar ôl rhedeg ei farathon cyntaf erioed yn Llundain.

Yr adeg hynny fe gwblhaodd y ras mewn dwy awr 14 munud ac roedd hynny yn golygu mai ef oedd y Prydeiniwr cyntaf i gwblhau Marathon Llundain eleni.

Ar ôl cwblhau y marathon ddydd Sul dywedodd mai dyna'r profiad gorau iddo gael erioed.

Profiad anhygoel

Fe ddaeth Andrew Davies - y Cymro arall a oedd yn rhedeg y ras ddydd Sul yn 31ain gan gwblhau y marathon mewn 2.17.59.

Dywedodd e hefyd ei fod wedi bod yn brofiad anhygoel a bod yr awyrgylch yn gwbl ffantastig.

Image caption Gobaith Andrew Davies yw gwneud marathonau yn y mynyddoedd yn y dyfodol

Methiant fu ymdrech Ieuan Thomas o Gaerdydd i gyrraedd ras derfynol traws gwlad 3,000m ac aflwyddiannus hefyd fu ymdrechion David Omoregie i gyrraedd ras cyn-derfynol 110m y clwydi.