Cerflun pabïau wedi cyrraedd y Cynulliad yng Nghaerdydd

Weeping Window Image copyright Katrina Davies

Mae cerflun wedi'i wneud o filoedd o babïau coch seramig, gafodd ei greu i nodi 100 mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, wedi'i ddadorchuddio yng Nghaerdydd.

Cafodd cerflun y Weeping Window ei ddangos gyntaf yn Nhŵr Llundain yn 2014, ac mae wedi bod ar daith o amgylch y DU ers hynny.

Mae nawr yn cael ei arddangos y tu allan i'r Cynulliad ym Mae Caerdydd.

Mae'r adeilad hefyd yn cynnal arddangosfa yn adrodd hanes merched gafodd eu heffeithio gan y Rhyfel Mawr.

Cafodd y cerflun ei ddangos am y tro cyntaf yng Nghymru yng Nghastell Caernarfon ym mis Hydref y llynedd.

Image copyright @ILovesTheDiff/Twitter

Straeon perthnasol