Gwion Hallam yn ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Môn

Coron

Gwion Hallam yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.

Yn wreiddiol o Rydaman, mae'n byw yn Y Felinheli gyda'i wraig Leri a'u plant, Noa, Moi, Twm a Nedw.

Bu'n gweithio fel sgriptiwr ar gyfer teledu a radio, a chyhoeddodd gerddi i blant a nofel i'r arddegau, Creadyn, a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2006.

Daeth yn agos at ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau, 2003, ond ar ôl hynny, ychydig iawn o farddoni a wnaeth.

Yn ddiweddar bu'n gweithio fel bardd gyda rhai â dementia, ac fe newidiodd hyn bopeth meddai. Bu'r gwaith hwn yn ddigon i atgyfodi'r ysfa ynddo i farddoni, ac fe'i hanrhydeddwyd ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Llun.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Seremoni'r Coroni

Yn dilyn y seremoni, dywedodd y Prifardd wrth BBC Cymru Fyw: "O'n i isie sgwennu ar ôl y cyfnod yn y cartrefi henoed yma. A nes i weld beth oedd y testun a meddwl falle bod hwn yn cynnig strwythur i'r gofynion hynny.

"Cerdd am fardd yn mynd i ysgrifennu barddoniaeth gyda phobl â dementia, bardd yw ei enw fe yn y gerdd a Lili yw'r person. Deialog rhwng dau berson. Sgwrs yw hi mewn ffordd.

"Dyw Lili ddim yn berson iawn ac eto nes i gwrdd ag aml i Lili, yn ddynion ac yn ferched dros y flwyddyn, ddwy ddiwethaf.

"A'r bardd yn ansicr iawn, yn rhwystredig. A Lili yn dangos iddo fe falle ma' nid trio trwsio ei hiaith hi yw ei waith e ond adlewyrchu ei hiaith hi. Dyna'r drych mewn ffordd am wn i."

Ychwanegodd: "Trio adlewyrchu mae'r bardd, peidio trio gwneud hi yn rhywbeth dyw hi ddim erbyn hyn ond dathlu y ffaith bod hi dal yn berson… a bod y ffordd mae hi yn siarad, y ffordd mae hi yn cofio, y ffordd mae hi yn cyfathrebu weithie yn farddoniaeth beth bynnag."

Image caption Y Prifardd tu allan i'r Pafiliwn wedi'r seremoni

'Trwy Ddrych'

Cyflwynwyd y Goron am bryddest ddigynghanedd heb fod yn fwy na 250 o linellau dan y teitl Trwy Ddrych.

Y beirniaid oedd M Wynn Thomas, Glenys Mair Roberts a Gwynne Williams.

Wrth draddodi'r feirniadaeth o lwyfan y Pafiliwn, dywedodd M Wynn Thomas: "'Fe rydw inne hefyd yn ei chasáu hi,' medde'r bardd mawr Americanaidd Marianne Moore am farddoniaeth: 'fe rydw inne hefyd yn ei chasáu hi, mae pethe pwysicach o lawer na ffidlan fel hyn.'

"Hawdd iawn cytuno, credwch chi fi, ar ôl gorfod darllen 34 o bryddestau mewn byr amser.

"Ond ar ôl i Marianne Moore gychwyn drwy sgubo barddoniaeth i'r bin sbwriel agosa, mae hi wedyn yn prysuro yn ei blaen yn ei cherdd i ychwanegu fod barddoniaeth ar ei gorau hefyd yn medru cynnig inni ryw gip dilys, anhepgor, cwbl unigryw ar ein bywydau meidrol.

"Ac mae'r tri ohonon ni'n llawen o gytûn inni gael eleni nid un gerdd, ond nifer anarferol o gerddi, a lwyddodd i gyrraedd y safon aruchel hon."

Roedd wyth ymgais yn y Dosbarth Cyntaf, ac roedd y gystadleuaeth eleni'n un safonol iawn ym marn y beirniaid.

Ychwanegodd M Wynn Thomas: "Dyna chi'n cyfyng gyngor gwych ni'n tri felly. Cymaint o bryddestau rhagorol, ond dim ond un a all gipio'r goron. O drwch aden gwybedyn fe fydde Glenys wedi hoffi medru coroni Coppi.

"Ond mae'n barod iawn serch hynny i gydsynio â Gwynne a finne fod elwyn/annie/ janet/ jiws wedi ymdrin yn gynnil o feistrolgar a sensitif ag un o felltithion duaf ein dydd.

"Ac felly fe ryn ni'n tri yn unfryd o'r farn mai drych elwyn/annie/janet/jiws 'ddylai adlewyrchu wyneb haul a llygad goleuni yma eleni ym Modedern."

Image copyright Eisteddfod Genedlaethol
Image caption John Price oedd yn gyfrifol am greu'r goron eleni

Y Goron

Noddir y Goron eleni gan Ferched y Wawr, a hynny yn ystod blwyddyn o weithgareddau a dathliadau wrth i'r mudiad nodi'i hanner canfed pen-blwydd.

Lluniwyd y Goron gan y gof arian, John Price, cyn-athro crefft a gwneuthurwr nifer o goronau eisteddfodol cain, ac mae wedi llwyddo i wau ynghyd Merched y Wawr a lleoliad yr Eisteddfod eleni.

Image caption Rhai o aelodau'r Orsedd yn cerdded i'r llwyfan ar gyfer y seremoni
Image caption Yr Archdderwydd yn annerch y gynulleidfa yn y Pafiliwn
Image caption Y bardd buddugol yn sefyll ar ei draed