Gerald Williams ddim am ymweld â safle Brwydr Passchendaele

Gerald Williams
Image caption Byddai ymweld a Passchendaele yn "chwalu" darlun sydd gan Gerald Williams yn ei feddwl

Mae nai Hedd Wyn wedi dweud nad yw'n rhagweld y bydd yn ymweld â'r man lle cafodd ei ewythr ei ladd.

Yn ôl Gerald Williams byddai mynd i safle Brwydr Passchendaele, lle bu farw Elis Humphreys Evans yn 1917, yn "chwalu" darlun sydd ganddo yn ei feddwl.

Dyma'r tro cyntaf i Mr Williams ddod i'r Eisteddfod Genedlaethol ac ymhlith y gynulleidfa oedd yn gwrando arno'n trafod ei fywyd oedd pobl o Fflandrys.

Wrth gael ei holi gan y Prifardd Mererid Hopwood yn y Babell Lên, dywedodd: "Mae'r holl bobl sydd wedi dŵad acw ac wedi dweud wrtha i sut le sydd yna, a dwi wedi gwneud darlun yn fy meddwl a fyddai ddim isio chwalu fo."

Y darlun sydd ganddo meddai yw "cyflafan" ar hyd y pum milltir y buodd Hedd Wyn a'r dynion eraill yn ymladd.

"Dwi'n bod yn onest, dwi ddim yn deall rhyfel o gwbl."

Eisteddfod Y Bala

Mae'n 100 mlynedd eleni ers marwolaeth Hedd Wyn yn y flwyddyn a enillodd y Gadair Ddu yn Eisteddfod Penbedw.

Mae'r gadair yn cael ei chadw yng nghartref y bardd - Yr Ysgwrn - ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Cyfaddefodd Mr Williams nad oedd eisiau i awdurdod y parc fynd a'r gadair, sydd wedi ei gwneud o hen dderw o Abaty yn Llangollen, i gael ei thrwsio yn ne Cymru.

Roedd o wedi dweud nad oedd hi'n gallu ffitio trwy'r drws, ac felly nad oedd modd ei symud.

Image caption Y Prifardd Mererid Hopood oedd yn holi Gerald Williams ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol

Daeth i'r amlwg bod symud y gadair ar gyfer Eisteddfod Y Bala yn fwy o her nag oedd o wedi meddwl, gan nad yw hi'n gadair wydn.

Dywedodd: "Mae hi fatha gwydr. Mae hi yn gry' yn ei lle ond pwyswch chi ar ryw dalcen a mae hi yn torri."

Ychwanegodd mai'r bwriad oedd peidio dweud wrth y Parc Cenedlaethol bod y gadair wedi mynd i'r Eisteddfod: "Ddaru ni ddim deud wrth y parc ond ddaru'r diawched ffindio allan!"

Eleni mae'r Ysgwrn wedi ail-agor ar ôl cael ei adnewyddu.

Mr Williams a'r Parc Cenedlaethol sy'n gyfrifol am reoli'r Ysgwrn, a dywedodd ei fod mewn cyfyng gyngor am gyfnod ynglŷn â beth i wneud gyda'r cartref lle buodd yn ffermio.

"Gesh i American acw odd yn d'eud os fyswn i isio ei werthu fo fysa fo yn rhoi cynnig arno fo," meddai.

"Os fyswn i yn gwerthu fo i America fysa fo yn mynd fatha bont Llundain."

Image caption Mae'r Gadair Ddu wedi gadael Yr Ysgwrn am y tro ac ar faes yr Eisteddfod ym Môn

Cafodd gynnig hefyd i symud yr adeilad i Amgueddfa Werin Sain Ffagan yng Nghaerdydd, ond nid oedd wedi ei argyhoeddi.

"Fedrwch chi ddim mynd a'r ardal 'efo chi, beth oedd Hedd Wyn yn ei weld o garreg y drws, fedrwch chi ddim mynd a hwnnw efo chi na fedrwch."

Addewid i fam Hedd Wyn

Dywedodd bod ganddo un amod wrth ofyn i'r Parc Cenedlaethol ei helpu i redeg Yr Ysgwrn - eu bod yn cadw'r drws yn agored i bawb.

Fe wnaeth yr addewid i fam Hedd Wyn, y bu'n ei fagu ef ac un o'i frodyr ar ôl iddyn nhw golli eu mam yn ifanc.

Pedair oed oedd Mr Williams pan gollodd ei fam, a dyweodd ei fod yn rhy ifanc i sylweddoli'r galar yr oedd y teulu yn ei brofi wedi marwolaeth Hedd Wyn.

Esboniodd bod pobl yn dod i ymweld â'r cartref ac i weld y Gadair Ddu hyd yn oed yn y dyddiau cynnar.

"O'dd pobl yn cyrraedd o hyd ac mewn ffordd o siarad doedd hiraeth ddim yn cael amser i fendio.

"Odd rhywun acw yn agor y clwyfau o hyd."

Straeon perthnasol