Cyhoeddi enw dyn fu farw wedi gwrthdrawiad M4

Andrew Gwynne
Image caption Roedd car Andrew Gwynne yn cael ei ddilyn gan yr heddlu cyn y gwrthdrawiad.

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw'r dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar draffordd yr M4 ddydd Sadwrn, 5 Awst.

Bu farw Andrew Gwynne, 35 oed o Gaerloyw, pan darodd ei gar Ford Focus yn erbyn Landrover rhwng cyffyrdd 32 a 30.

Roedd car Mr Gwynne yn cael ei ddilyn gan yr heddlu cyn y gwrthdrawiad.

Mae teulu Mr Gwynne wedi rhoi teyrnged iddo gan ei ddisgrifio fel person "llawn hwyl ac egni" ac yn "ddyn teulu arbennig".

Mae'r digwyddiad bellach wedi'i gyfeirio at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.