Eisteddfod yn ymddiheuro am y drefn parcio
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Eisteddfod: Ymddiheuro am 'adael rhai pobl i lawr'

7 Awst 2017 Diweddarwyd 21:56 BST

Mae trefnwyr yr Eisteddfod wedi cadarnhau bydd bysiau gwennol yn parhau i gludo pobl i'r maes ddydd Mawrth.

Yn sgil glaw trwm dros y penwythnos roedd y trefnwyr wedi dweud wrth bobl adael eu ceir ar Stad Ddiwydiannol ym Mona a chymryd bws gwennol i'r maes ddydd Llun.

Ond roedd y drefn wedi achosi cryn oedi i lawer, ac fe wnaeth yr Eisteddfod ymddiheuro wrth i rai Eisteddfodwyr feirniadu'r trefniadau.

Teleri Glyn Jones sy'n holi Elfed Roberts.