Lle oeddwn i: Martha, Jac a Sianco

Caryl Lewis

Caryl Lewis ydy un o feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod ynys Món eleni .

Mae hi wedi ennill Llyfr y Flwyddyn ddwywaith. Yn 2016 gyda 'Y Bwthyn' ac yn 2005 gyda'r nofel 'Martha, Jac a Sianco', gafodd ei haddasu ar gyfer ffilm deledu.

Bu Cymru Fyw yn holi am gefndir y gyfrol boblogaidd:


Yn yr hen gegin o'n i, yn ffermdy Hafodau, Goginan. O'dd hi'n hen 'stafell efo lle tân mawr agored, dyna lle o'dd fy 'nesg i ar y pryd. O'dd hi'n ddesg bren anferth o'dd wedi dod o Blas Gogerddan. Gyda phapur a phensil dwi'n sgwennu, ac yn teipio'r gwaith lan wedyn.

O'n i'n 24 oed pan gychwynnes i sgwennu 'Martha, Jac a Sianco'. O'n i'n hunan gyflogedig ac o'n i heb briodi na chael plant ar y pryd, felly o'dd hi'n gyfnod eitha' tawel yn fy mywyd ond o'n i'n sgwennu lot yn y cyfnod yna. Sgwennes i 'Martha, Jac a Sianco' gyda'r flwyddyn fel petai, dwi'n cofio sgwennu am gneifio yn y nofel ac odd y bois yn cneifio mas tu fas ar y ffarm.

Dwi'n meddwl am y stori am amser hir, a wedyn rwy'n sgwennu'n gloi, alla i wneud lot mewn diwrnod. Tua chwech wythnos gymrodd hi i orffen 'Martha, Jac a Sianco', ond o'dd hi wedi bod yn fy mhen i am amser hir cyn 'ny - dwi'n cario pethe yn fy mhen am flynydde'.

Y sbardun i'r nofel o'dd gweld bywyd o fy nghwmpas i. O'dd yr hen ffordd wledig o fyw yn diflannu, o'dd e'n anweledig mewn ffordd. O'dd 'na dipyn o sôn mewn nofelau am y Gymru fodern, ond dim cymaint yr hen ffordd o fyw. Y math o gymeriadau yn y nofel o'dd y math o bobl o'n i'n dod ar eu traws. Ges i gyngor i sgwennu am beth dwi'n ei wybod, ac os wyt ti'n teimlo'r cymeriad, mae'n bwysig i'w sgwennu fe.

Roedd y cyfnod o sgwennu 'Martha, Jac a Sianco' yn gyfnod neis yn fy mywyd ac o'dd hi'n gyfnod hapus a mae hynna, dwi'n meddwl, yn bwysig i gynhyrchu gwaith.

(Cafodd yr erthygl hon ei chyhoeddi gyntaf ar wefan Cymru Fyw yn 2016)

Image copyright Caryl Lewis