Osian Roberts yn cynnal y traddodiad teuluol

osian roberts

Mae Osian Roberts yn dweud y bydd yn "golygu lot" iddo gael dilyn yn ôl traed ei dad a'i ewythr wrth gael ei urddo i'r Orsedd.

Bydd is-reolwr tîm pêl-droed Cymru ymhlith y bobl fydd yn cael eu hanrhydeddu ddydd Gwener ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern.

Ag yntau hefyd yn Llywydd ar y Brifwyl eleni, mae'n dweud fod derbyn y fraint yn ei fro enedigol yn gwneud y peth yn fwy arbennig.

"'Di o'm yn rwbath ti'n anelu ato fo wrth drio creu gyrfa... ond mae o'n by-product o'r gwaith 'dan ni di neud, ac felly mae'n rhywbeth i fod yn falch iawn ohono," meddai.

'Ymfalchïo'

Ym myd y bêl gron y mae Osian wedi gwneud ei farc, a bu'n cynorthwyo Chris Coleman wrth i'r tîm cenedlaethol gyrraedd rownd derfynol Euro 2016 llynedd.

Ond mae hefyd yn hanu o deulu eisteddfodol, ag yntau'n wynebu cyfarwydd ar y llwyfan yn lleol wrth gystadlu pan oedd yn ifanc.

Mae ei dad, Ellis Wyn, yn gyn-enillydd Medal T.H. Parry Williams, a'i ewythr yw'r arweinydd adnabyddus Alwyn Humphreys, y ddau wedi'u hurddo i'r wisg wen.

"Mae'n golygu lot i mi ac mae'n golygu lot i'n nheulu i, oherwydd mae fy nhad yn aelod o'r Orsedd. mae'n ewythr i [Alwyn Humphreys] yn aelod o'r Orsedd," meddai Osian Roberts.

"Felly mae'n neis fod y traddodiad hwnnw'n parhau yn y teulu."

Image caption Fe wnaeth Osian Roberts ac Ian Gwyn Hughes ymddangos ar lwyfan yr Eisteddfod llynedd wrth i'r ŵyl gydnabod llwyddiant y tîm

Nid yr is-reolwr yw'r unig aelod o staff y tîm fydd yn cael ei urddo'r wythnos hon chwaith.

Bydd pennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes - ŵyr i Lewis Valentine - hefyd yn cael ei urddo am ei gyfraniad i hyrwyddo'r Gymraeg yn rhinwedd ei swydd.

"Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig i ni'n dau," meddai Osian Roberts.

"Pan mae'r iaith yn cael ei ddefnyddio o fewn tîm Cymru dydi o ddim yn rwbath 'dan ni 'di gynllunio, mae o jyst yn rhan naturiol o'n gwaith ni ddydd i ddydd.

"Nath yr Euros ddangos bod ni'r Cymry yn gallu sticio'n chest allan a bod yn falch o fod yn Gymry.

"Mae'r ŵyl yma, yr Eisteddfod, yn rhywbeth unwaith eto y dylen ni fel Cymry fod yn ymfalchïo ynddo fo."

Mwynhau'r foment

Yn rhinwedd ei rôl fel Llywydd yr ŵyl, mae'r hyfforddwr eisoes wedi bod yn crwydro ac yn cymryd rhan mewn sawl sgwrs a digwyddiad.

Ac mae'n dweud ei fod yn synnu cymaint y mae pobl yn parhau i fod eisiau trafod gorchestion y tîm, flwyddyn ers y twrnament.

"Dwi 'di bod ar hyd a lled Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf yn cynnal nosweithiau ac yn y blaen, ac mae'r straeon dal yn fy synnu i, y ffordd wnaeth o effeithio [ar bobl], mae wedi cipio yn nychymyg pawb," meddai.

Image caption Bu cyfweliadau Cymraeg Osian a rhai o'r chwaraewyr yn ystod yr Euros yn hwb i broffil yr iaith

"Mae'n dangos beth ydi nerth pêl-droed, nid dim ond pobl sydd yn licio pêl-droed, ond pobl sydd ddim yn dilyn pêl-droed, mae'r effaith yna wedi bod yn anhygoel.

"Er bod ni wedi symud ymlaen o ran yr ochr bêl-droed, ac rŵan yn trio cyrraedd [Cwpan y Byd 2018 yn] Rwsia, mae o'n beth da i groesawu fod pobl yn dal i fwynhau yr haf yna.

"'Dan ni'n euog weithiau o symud ymlaen heb fwynhau'r foment. Y cydbwysedd yna sy'n bwysig."

Croeso cynnes

Yn naturiol, fel brodor o'r cyffiniau, mae'n llawn clod am y croeso sydd wedi'i estyn gan bobl Môn i'r Eisteddfod yr wythnos hon.

Ond mae'n mynnu nad yw hynny'n rhywbeth sydd ond yn dod yn fwy amlwg yng nghadarnleoedd traddodiadol yr iaith.

"Roedd Y Fenni blwyddyn dwytha yn wych, a dwi 'di gwneud lot o bethau yn Nhreganna lle dwi'n byw yn Gaerdydd mewn nosweithiau hel arian [ar gyfer Eisteddfod 2018]," meddai.

"Felly dwi'm yn meddwl bod o'n rhywbeth unigryw i Fôn, dwi'n meddwl fod o'n rwbath reit gyffredin drwy Gymru gyfan."