Llywodraeth eisiau diddymu swydd Comisiynydd y Gymraeg

Alun Davies
Image caption Fe gyhoeddodd Alun Davies y Papur Gwyn mewn digwyddiad ar faes yr Eisteddfodd ddydd Mercher

Fe allai swydd Comisiynydd y Gymraeg gael ei diddymu wrth i weinidogion geisio cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau creu comisiwn i hybu'r iaith a rhoi'r cyfrifoldeb am safonau iaith i weinidogion.

Ond mae'r comisiynydd presennol, Meri Huws, wedi rhybuddio am "golli momentwm" a dadwneud pum mlynedd o "newid".

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, byddai cael gwared â'r rôl yn "gam mawr yn ôl".

Mae'n un o'r newidiadau gafodd eu cyhoeddi mewn Papur Gwyn ddydd Mercher.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, yn rhybuddio am 'golli momentwm'

Yn ôl y cynlluniau, gweinidogion fyddai'n penderfynu pa reolau neu safonau y dylid eu pennu i ba sefydliadau, gyda'r comisiwn newydd yn gyfrifol am blismona'r rheolau.

Byddai angen i unrhyw newidiadau gael eu cymeradwyo gan ACau mewn pleidlais yn y Senedd cyn cael eu cyflwyno.

Dywedodd y gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg mai bwriad y newidiadau oedd creu "cydbwysedd" rhwng "hybu'r Gymraeg... a rheoleiddio gwasanaethau Cymraeg".

"Ry'n ni eisiau canolbwyntio o'r newydd ar y gwaith hybu, ynghyd â newid sut mae system y Safonau'n gweithio i sicrhau ei bod yn rhoi hawliau i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon bosib", meddai Alun Davies.

"Dwi'n credu y bydd Comisiwn y Gymraeg yn gyfrwng cryf i gyflawni'r ddwy nod."

Image caption Mae Alun Davies yn dweud fod cynnwys y Papur Gwyn yn adlewyrchu adborth gan sefydliadau o bob cwr o'r wlad

Dywedodd y comisiynydd presennol, Meri Huws bod "unrhyw ddatblygiad i annog siaradwyr i ddefnyddio'r Gymraeg... yn rhywbeth cadarnhaol".

Ond rhybuddiodd bod posibilrwydd o "golli momentwm" wrth i waith ei swyddfa hi ddechrau cydio, bum mlynedd wedi sefydlu'r rôl.

"Mae isie i ni sicrhau bod unrhyw ddatblygiad newydd yn tyfu be' sy' wedi digwydd - yn esblygiad naturiol", meddai.

"Mae 'na newid ar lawr gwlad, dwi'n gallu'i weld e a'i deimlo fe... 'Dyn ni ddim isie colli'r momentwm yna.

"Os gamwn ni'n ôl bum mlynedd yn y broses yma, wnawn ni fyth gyrraedd [y targed o filiwn o siaradwyr yn] 2050."

Image caption Fe fynegodd ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith eu gwrthwynebiad i'r newidiadau ar faes yr Eisteddfod

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, fe fyddai'r newidiadau yn "troi'r cloc yn ôl" ac mae "cynigion y Llywodraeth yn llanast llwyr".

"Rhwng diddymu Comisiynydd y Gymraeg, lleihau gallu'r cyhoedd i gwyno'n effeithiol a gwanhau'r pwerau i orfodi'r Safonau, byddai hyn yn gam mawr yn ôl", meddai Heledd Gwyndaf, cadeirydd y mudiad.

"Mae angen corff annibynnol i hyrwyddo'r Gymraeg hefyd, ond nid drwy wanhau'r gyfundrefn rheoleiddio mae gwneud hynny. Mae angen un pencampwr cryf i ganolbwyntio ar reoleiddio, ac mae angen mwy o reoleiddio, nid llai."

Ychwanegodd: "Mae cynigion y Llywodraeth yn llanast llwyr.

"Ar yr un llaw roedd Alun Davies bore yma yn dweud y byddai am gynnwys y sector preifat o dan Safonau, ond mae'r papur gwyn yn nodi'n bendant nad oes bwriad gyda'r llywodraeth i wneud hynny."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Alun Ffred Jones, sy'n gyn-weinidog gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg, wedi rhybuddio rhag gwanhau'r ddeddf iaith

Daeth beirniadaeth bellach o'r cynllun gan Blaid Cymru, gyda'u llefarydd ar yr iaith, Siân Gwenllian AC, yn dweud y byddai'n "gwanhau hawliau siaradwyr Cymraeg".

"Does gan Lywodraeth Cymru ddim gobaith o gyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr os nad yw rheoleiddio wrth galon y strategaeth", meddai.

"Mae'n rhaid deddfu er mwyn amddiffyn hawliau siaradwyr Cymraeg. Mae diddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg yn gam yn ôl."

'Dadl dros ddiwygio'

Dywedodd y Ceidwadwyr bod lle i newid rôl Comisiynydd y Gymraeg ond na ddylai fod yn "esgus i gael gwared â chefnogaeth hyd braich i'r iaith".

"Mae dadl dros ddiwygio rôl Comisiynydd y Gymraeg, a'i wneud yn fwy atebol i'r Cynulliad yn hytrach na Llywodraeth Cymru", meddai Suzy Davies AC.

Ychwanegodd ei bod "wastad wedi credu mai camgymeriad oedd dychwelyd y cyfrifoldeb dros hyrwyddo'r Gymraeg i'r llywodraeth" a bod hynny wedi gwneud swydd y comisiynydd yn galetach.

Fe fydd 'na gyfnod ymgynghori nawr ar gynlluniau Llywodraeth Cymru. Bydd y cyfnod yn dod i ben ar 31 Hydref.