Canlyniadau Cwpan y Gynghrair

Gemau Cwpan Y Gynghrair Image copyright Huw Evans picture agency

Llwyddodd Casnewydd i ennill eu lle yn ail rownd Cwpan y Gynghrair am y tro cyntaf ers 2013 gyda buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Southend United nos Fawrth.

Sgoriodd Shawn McCoulsky, sydd ar fenthyg o Bristol City, ddwy gôl yn gynnar yn yr ail hanner yn yn erbyn y tîm o'r Bencampwriaeth.

Bu'n rhaid i Gaerdydd aros yn hirach am eu buddugoliaeth.

Doedd e mo'r dechrau gorau i'r Adar Gleision wrth i Sean Morrison rwydo'r bêl i'w gôl ei hun i roi Portsmouth ar y blaen wedi 32 munud.

Llwyddodd Caerdydd i unioni'r sgor gyda gôl Nathaniel Mendez-Laing wedi 48 munud, a chyfartal oedd hi ar ddiwedd y 90.

Greg Halford lwyddodd i sicrhau buddugoliaeth i Gaerdydd yn yr amser ychwanegol.

Bydd y ddau dîm o Gymru'n clywed pwy yw eu gwrthwynebwyr nesaf pan fydd gemau'r ail rownd yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau.