Maidenhead 1-2 Wrecsam

Wrecsam Image copyright Getty Images

Roedd yna fuddugoliaeth i Wrecsam oddi cartref yn Maidenhead nos Fawrth.

Manny Smith aeth â'r ymwelwyr ar y blaen wedi 40 munud, cyn i Maidenhead daro'n ôl ddwy funud yn ddiweddarach gyda gôl gan Dave Tarpey.

Roedd hi'n gyfartal ar yr hanner felly, ond daeth ail gôl Wrecsam yn y 77fed munud - Ntumba Massanka yn rhwydo'r bêl a sicrhau'r fuddugoliaeth.