Dynes o Gymru wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Ne Affrica

Sharon Davies Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd Sharon Davies yn teithio i ymweld â theulu ym Motswana

Mae'r heddlu yn Ne Affrica wedi cadarnhau fod dynes o Gymru wedi marw mewn gwrthdrawiad ffordd yn y wlad.

Roedd Sharon Davies, 45 o Aberpennar, yn teithio mewn cerbyd ar ffordd yr R509 yn ardal Derby, Rustenburg, pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar 31 Gorffennaf.

Roedd Ms Davies a'i theulu yn teithio i ymweld â theulu ym Motswana, ac fe gafodd tri aelod arall o'i theulu, gan gynnwys dau blentyn, eu hanafu yn y gwrthdrawiad.

Mae teulu Ms Davies yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion.

Dywedodd Heddlu De Affrica eu bod yn ymchwilio i achos y gwrthdrawiad.